Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Medi 2021
Amser:
09.30 -
12.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12417
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Bethan Webb, Llywodraeth Cymru Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Nia Moss (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Heledd Fychan AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS, Carolyn Thomas AS a Tom Giffard AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol.
Datganodd Heledd Fychan MS y buddiannau canlynol: mae hi'n gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae hi'n llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cymraeg Evan James, a chefnogodd yr adolygiad barnwrol ynghylch ad-drefnu ysgolion ym Mhontypridd.
Datganodd Carolyn Thomas AS ei bod yn gynghorydd ar Gyngor Sir y Fflint
Datganodd Tom Giffard AS ei fod yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
2 Sesiwn i graffu ar waith Gweinidogion: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
3 Craffu ar waith Comisiynydd y Gymraeg
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.
4 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2020-21 a’r Adroddiad Sicrwydd 2020-21.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5.3 Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
5.4 Llythyr at Lywodraeth Cymru yn dilyn y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog gyda Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
5.5 Llythyr at Lywodraeth Cymru ar effaith gwerthu Bad Wolf
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y materion a godwyd yn y cyfarfod.
7.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg ar y materion a godwyd yn y cyfarfod.
8 Blaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser cyfarfod ychwanegol.